Teithiau pysgota môr arbennig i bawb

Rydym yn cynnal teithiau pysgota môr modern, proffesiynol, glân a hwyliog o Geinewydd, pentref pysgota trawiadol o hardd. Ry’n ni’n enwog ar hyd arfordir gorllewin Cymru am gynnig teithiau pysgota llawn hwyl i’r teulu cyfan. Bydd pawb ar fwrdd ein cwch pysgota glân a hynod bob tro’n cael taith bysgota ddifyr a chofiadwy. Yn y linc hwn cewch wyliwch ein fideo hysbysebu, a fideo am ein cwch, ‘Legend of New Quay.

Dyma linc i’n system archebu tocynnau ar-lein, neu gliciwch ar y botwm Archebwch Nawr. Nid ydym yn codi comisiwn wrth archebu ac ni cheir unrhyw gostau cudd.

Mae Ceinewydd yn agos i Aberaeron. Mae’n 40 munud o Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin, ac yn daith ddigon pleserus o Sir Benfro.

Dewch i bysgota

  • Teithiau Pysgota

    Ymunwch â ni am daith fythgofiadwy! Mae’n daith dawel, lonydd i un o’n rhiffiau cyfrinachol lle gallwn ostwng bachyn mecryll ac abwyd arno i wely’r môr. Mae’r daith bysgota hon ar gyfer y rhai sy’n hoffi antur. O siarc i octopws – does wybod beth fyddwn yn ei ddal. Pa ffordd well o ddathlu gwyliau hyfryd yng Ngheinewydd na chael mecryll o’r barbeciw! Bydd oes o atgofion melys yn cael eu creu ar y daith arbennig hon. Mae ein teithiau’n addas i’r teulu, darperir yr offer i gyd a chewch gadw beth bynnag a ddaliwch. Trefnwch le ar-lein, heb ffi bwcio. Dyma linc i’n fideo hysbysebu.

  • Teithiau wedi’u Siartro

    Yma yn Epic Fishing rydym yn ymfalchïo fod ein teithiau pysgota ymhlith y goreuon. Mae ein teithiau siartredig wedi’u cynllunio ar gyfer grwpiau, a’r profiad o gael diwrnod hwyliog yn pysgota yw’r flaenoriaeth. Os ydych yn grŵp teuluol, yn griw o ffrindiau neu’n griw o gyd-weithiwyr ar ddiwrnod allan, mae’r diwrnodau llawn hyn, lle cewch pysgota o ddifri, yn ddelfrydol ar eich cyfer. Dyma linc i’n fideo hysbysebu am bysgota yn y môr.

  • Bywyd Gwyllt Anhygoel

    Mae teithiau’r Epic Fishing Trips yn mynd i ganol un o’r amgylcheddoedd cyfoethocaf o ran bywyd gwyllt morwrol. Rydym yn ddigon ffodus o weld rhai golygfeydd anhygoel yn ddyddiol, bron. O’r dolffin i’r llamhidydd, y morlo ac ambell aderyn prin – mae ein teithiau’n gofiadwy iawn o ran y wledd o fywyd gwyllt sydd o’n cwmpas.

  • Masnachol

    Darparwn wasanaethau ar y môr i’r rheiny yn y byd ffilm, teledu ac yn y cyfryngau’n gyffredinol. Gallwn fod yn blatfform darparu, gwylio a diogelu. Yn ystod tymor 2020 roedden wrth ein boddau fod y Legend of New Quay yn blatfform masnachol delfrydol. Roedd ei led o bedwar metr, ei injans tawel a llyfn, a’r holl ofod ar ei dec yn addas ar gyfer sawl criw ffilm yn ystod yr haf. Daeth criwiau o BT Sport, S4C, BBC a Rondo Media atom a mwynhau’r profiad yn fawr.

  • Legend of New Quay

    Adeiladwyd ein cwch arbennig, y Legend of New Quay, yn 2018 yn arbennig ar ein cyfer. Mae’n gwch hynod o gyfforddus ac addas i bob oed. Mae’n llawn offer defnyddiol, yn eang o ran gofod ac yn safadwy. Mae’n bedwar metr o led, dros ddeg metr o hyd, ac mae ganddo fotor allanol dwbl Yamaha 150hp. Mae’r Legend yn dawel a chyflym, ac ar ei fwrdd mae offer darganfod pysgod ac offer pysgota penigamp, a’r cyfan yn barod i chi i’w ddefnyddio.

JSYK - Just so you know

    More news →

    Archebwch Nawr