Ble y’n ni?

Mae pob taith yn cychwyn o’r pier mawr yn Ngheinewydd, Ceredigion, SA45 9NW, neu what3words: outlooks.lyrics.coins. Mae Ceinewydd yn agos i Aberaeron. Mae’n 40 munud o Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin. Anelwch am arfordir Ceredigion a’i holl ddolffiniaid, a byddwch yn siŵr o’n darganfod. Mae’n daith ddigon bleserus o Sir Benfro.

Nid oes gennym swyddfa docynnau na siop. Plis cliciwch ar y botwm book now er mwyn bwcio eich taith bysgota ar-lein. Does dim tâl ar gyfer bwcio taith.

Nodwch ein bod yn hwylio yn ôl yr hyn a drefnir ac yn gadael yn brydlon. Ymddiheuriadau, ond os byddwch yn cyrraedd yn hwyr bydd y cwch wedi hwylio – ni chynigir ad-daliad. Plis caniatewch ddigon o amser i barcio ac i gerdded i’r pier. Plis gwisgwch esgidiau addas a byddwch yn ofalus ar bob adeg. Os ydych chi’n canslo o fewn 48 awr cyn cychwyn eich taith bysgota, ni chewch ad-daliad. Os ydych chi’n rhoi mwy na 48 awr o rybudd wrth ganslo, fe gewch ad-daliad. Codir tal o 15% am gostiau bancio os oes angen ad-dalu.

Cau’r ffyrdd: Nodwch fod y system unffordd i’r harbwr (Rhes Glanmor) ar gau i bob cerbyd yn ddyddiol rhwng 11 y bore a 6 yr hwyr. Mae digon o feysydd parcio gerllaw (Sat Nav SA45 9PB a SA45 9QH). Dyma fap defnyddiol i’ch helpu.

Pier Ceinewydd: Dyma fideo defnyddiol ar gyfer lleoliad cychwyn eich taith.

Manylion bwcio

Er mwyn bwcio, mae angen talu ymlaen llaw. Plis defnyddiwch ein system ar-lein syml drwy glicio ar y botwm book now. Does dim ffi bwcio. Nodwch y gall teithiau gael eu canslo ar fyr rybudd oherwydd tywydd gwael. Dyma ein telerau a’n hamodau.

Ebostiwch tim@epicfishingtrips.co.uk neu lenwch y ffurflen isod.

Nodwch ein bod yn hwylio yn ôl yr hyn a drefnir ac yn gadael yn brydlon. Ymddiheuriadau, ond os byddwch yn cyrraedd yn hwyr bydd y cwch wedi hwylio – ni chynigir ad-daliad. Plis caniatewch ddigon o amser i barcio ac i gerdded i’r pier. Plis gwisgwch esgidiau addas a byddwch yn ofalus ar bob adeg. Os ydych chi’n canslo o fewn 48 awr cyn cychwyn eich taith bysgota, ni chewch ad-daliad. Os ydych chi’n rhoi mwy na 48 awr o rybudd wrth ganslo, fe gewch ad-daliad. Codir tal o 15% am gostiau bancio os oes angen ad-dalu.

Send Us An Email

Use the form below to send us an e-mail or e-mail tim@epicfishingtrips.co.uk directly.

Archebwch Nawr