Bywyd Gwyllt Anhygoel

Mae teithiau’r Epic Fishing Trips yn mynd i ganol un o’r amgylcheddoedd cyfoethocaf o ran bywyd gwyllt morwrol. Rydym yn ddigon ffodus o weld rhai golygfeydd anhygoel yn ddyddiol, bron. O’r dolffin i’r llamhidydd, y morlo ac ambell aderyn prin – mae ein teithiau’n gofiadwy iawn o ran y wledd o fywyd gwyllt sydd o’n cwmpas.

Gall y dolffin trwynbwl dyfu hyd at 4.5 metr o hyd, a daw i nofio wrth ochr y cwch yn aml wrth i ni hwylio i’r mannau pysgota. Wrth bysgota, gall y llamhidydd harbwr ein pasio, a daw morlo heibio’r cwch o dro i dro.

Creaduriaid arbennig

Mae slefrod môr casgen (barrel jellyfish) – rhai ohonynt yn fwy o faint na chaed bin – yn ein pasio weithiau wrth fynd efo’r llanw, ac yng nghanol yr haf daw adar drycin Manaw, gan daro wyneb y dŵr â’u hadenydd wrth hedfan heibio’r cwch. Gwelwn fulfranod (gannets), adar y môr mwyaf Ewrop o ran eu maint, yn plymio i’r tonnau. Weithiau hefyd, mae palod (puffins) a gwylanod y graig (petrels) i’w gweld.

Fe welwch ryw fywyd gwyllt arbennig ar bron bob un o’n teithiau, ond gan fod pob taith yn wahanol, nid oes sicrwydd beth a welwn; mae un peth yn sicr – bydd eich taith yn fythgofiadwy!

Archebwch Nawr