Ein cwch, y Legend of New Quay

Am gwch! Dros ddeg metr o hyd!

  • Ffaith – drwy Geredigion, y Legend yw’r cwch pysgota mwyaf modern a ddefnyddir ar gyfer teithiau ar y môr. Gallwch ymlacio wrth feddwl eich bod ar y cwch gorau
  • Mae’n safadwy – nid yw’r Legend yn mynd i droi a throsi fel cwch hen ffasiwn. Catamaran â dwy ran iddo yw hwn. Mae bron yn 4 metr o led ac yn gwneud i chi deimlo’n hyderus wrth deithio
  • Mae’n dawel – does dim sŵn nac arogl diesel ar hwn; mae ganddo ddwy injan dawel a llyfn sy’n cael y driniaeth orau
  • Mae’n gyfforddus – does dim sôn am feinciau anwastad. Ceir seddi cyfforddus i bawb, man i gysgodi rhag y glaw a rhywle sych i gadw eiddo personol
  • Digonedd o le – mae’n gwch agored, a byddwch chi byth yn teimlo eich bod wedi’ch gwasgu. Mae digon o le i bysgota ac i fwynhau’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas.
  • Y pysgod – mae ein system lywio Simrad, a’n hoffer darganfod pysgod, ymhlith y gorau sydd ar gael; rydym wastad yn gwybod i le ry’n ni’n mynd, a lle mae’r pysgod!

Diogelwch a Thelerau ac Amodau

Mae’r Legend of New Quay wedi ei drwyddedu gan yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau i gludo deuddeg teithiwr a thri aelod o’r criw ugain milltir o Geinewydd. Er mwyn eich diogelwch, NI CHANIATEIR YSMYGU nac alcohol ar fwrdd y cwch.

Rhaid i bob plentyn dan ddeunaw fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Nid oes modd dod â babanod dan ddeunaw mis ar ein teithiau, mae’n ddrwg gennym. Cynghorwn eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas. Nid oes sicrwydd y bydd pysgod yn cael eu dal. Er mwyn eich diogelwch a diogelwch y teithwyr eraill a’r anifeiliaid, ni chaniateir dod â chŵn ar y cwch.

Dim ond os yw’r tywydd yn ffafriol y byddwn yn hwylio.

Mae penderfyniad y sgiper i hwylio ai peidio, i ddychwelyd i’r harbwr yn gynt na’r disgwyl, neu i symud i leoliad arall, yn derfynol.

Codir tâl am unrhyw offer pysgota sy’n cael ei golli neu ei ddifrodi.

Gall teithiau gael eu canslo ar fyr rybudd oherwydd tywydd gwael neu ryw resymau eraill nad oes modd eu rhagweld. Ni chewch ad-daliad os ydych yn dewis canslo; os byddwn ni’n canslo’r daith cynigiwn ad-daliad, neu daith arall yn ei lle.

Os ydych chi’n canslo o fewn 48 awr cyn cychwyn eich taith bysgota, ni chewch ad-daliad. Os ydych chi’n rhoi mwy na 48 awr o rybudd wrth ganslo, fe gewch ad-daliad. Codir tal o 15% am gostiau bancio os oes angen ad-dalu.

Os nad ydych yn cyrraedd y cwch mewn pryd am ba bynnag reswm, ac os yw’r cwch wedi gadael yr harbwr, ni chewch ad-daliad. Mae ein teithiau wastad yn gadael yn brydlon. Dyma ein telerau a’n hamodau.

Archebwch Nawr