Masnachol a’r Cyfryngau

Gallwn ddarparu gwasanaethau ar y môr i’r rheiny yn y byd ffilm, teledu ac yn y cyfryngau’n gyffredinol. Gallwn hefyd fod yn blatfform darparu, gwylio a diogelu. Yn ystod yr haf bu sawl criw ffilm yn defnyddio’r Legend of New Quay, gyda’i led o bedwar metr, ei injans tawel a llyfn, a’r holl ofod ar ei dec. Daeth criwiau o BT Sport, S4C, BBC a Rondo Media atom a mwynhau’r profiad yn fawr (mae geirda ar gael).

Os yw’n fater logistaidd lle mae angen platfformau ffilmio, gyrwyr diogelwch neu newyddiadurwyr teithiol, mae gennym brofiad helaeth o gydweithio â chwmnïau cynhyrchu, y cyfryngau, ac enwogion. Ni yw’r cwmni sy’n cael ei ddewis ar gyfer cefnogaeth o’r fath ar y môr ar arfordir canolbarth Ceredigion, a gallwn sicrhau y bydd eich cynyrchiadau’n rhedeg yn llyfn, drwy fanteisio’n llawn ar yr amser sydd ar gael a lleihau unrhyw fân broblemau. Mae gennym brofiad helaeth o gydweithio â pheilotiaid drôns.

Mae ein sgiperiaid a’n tîm ar y lan yn brofiadol a phrofesiynol, gan sicrhau’r gwasanaeth gorau ar y dŵr a’r tir. Gweithiwn yn agos â’r cyfarwyddwyr a’r criw, gan roi cyngor yn ôl eu hanghenion. Gallwn ddarparu’r canlynol: Gwasanaeth darparu, diogelwch ac arolygu; Platfformau camera a drôn; Gwasanaeth logistaidd (gan gynnwys mwy o gychod wedi’u trwyddedu petai angen); Props.

Gan hwylio o Geinewydd neu Aberteifi, gallwn deithio hyd a lled Bae Ceredigion (Pwllheli, Porthmadog, Bermo, Aberdyfi, Aberaeron ac Aberteifi) ac allan i Fôr Iwerddon. Mae’r Legend of New Quay yn 10 metr o hyd, yn medru teithio ar gyflymder o 20 m.y.a., mae ganddi gyfleusterau toiled, storfa sych a lle i eistedd ac ymlacio. Dilynwch y linc hwn i ddysgu mwy am ein cwch, y Legend of New Quay (gallwn ddarparu mwy o gychod wedi’u trwyddedu petai angen). Mae ein gwybodaeth forwrol eang, gan gynnwys manylion llanw a thrai, y tywydd a’r ddaearyddiaeth leol, wedi profi’n ddefnyddiol tu hwnt ar nifer o shoots, gan ychwanegu’n helaeth at y prosiect dan sylw.

Os hoffech drafod yr hyn y gallwn ei gynnig i’ch prosiect nesaf, plis ffoniwch 07989 496526, neu ebostio tim@epicfishingtrips.co.uk am fanylion pellach.

Archebwch Nawr