Teithiau Pysgota

Beth sy’n well na thaith dawel, lonydd i un o’n rhiffiau cyfrinachol lle gallwn ostwng bachyn ac abwyd arno i wely’r môr?

Yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn, byddwn yn pysgota am fecryll, gwyniaid y môr, spurdogs, cathod môr, morgwn lleiaf, siarc bull huss, penfras a merfogiaid môr (sea bream). Bydd atgofion yn cael eu creu ar y teithiau hyn!

  • Darperir offer pysgota hawdd ei ddefnyddio, a hynny’n rhad ac am ddim. Ceir cyflwyniad defnyddiol
  • Cwch modern, diogel a safadwy, a dwy ran i’w gorff
  • Tawel, heb arogleuon diesel drewllyd

Mae’r Legend of New Quay dros ddeg metr o hyd a bron yn bedwar metr o led, ac yn hwyl i bysgota o’i fwrdd pan mae’n hwylio neu wedi’i angori. Mae Ceinewydd yn agos i Aberaeron. Mae’n 40 munud o Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin. Anelwch am arfordir Ceredigion a’i holl ddolffiniaid, a byddwch yn siŵr o’n darganfod. Mae’n daith ddigon bleserus o Sir Benfro.

Mae ein taith bywyd gwyllt yn sicr o fod yn un lawn cyffro. Plis cysylltwch os hoffech gael taith i weld y bywyd gwyllt lleol.

O, a chofiwch sylwi ar y bywyd gwyllt!

Gwelir dolffiniaid trwynbwl yn aml ar ein teithiau, ynghyd â morloi ac ambell lamhidydd swil. Ymunwch â’r daith er mwyn gwylio’r bywyd gwyllt rhyfeddol sydd ym mae Ceinewydd. Mae gennych gystal siawns o weld dolffin ar y daith hon ag ar unrhyw daith arall yn y bae, ac mae hynny’n ffaith.

Cewch fynd â’ch dalfa adre!

Mae’r teithiau pysgota mecryll yn addas i bawb, felly dewch â’r teulu! Yn ein profiad ni, mae’r rheiny sy’n dod ar y cwch ond sydd ddim am bysgota yn rhoi cynnig arni cyn diwedd y daith, wrth i gyffro’r profiad gydio ac wrth i’r pysgod ddod o’r dŵr. Mae digonedd o seddi cyfforddus i bawb felly mae dod ar y daith er mwyn gwylio’r pysgota yn brofiad gwerth chweil hefyd.

Our Prices in 2024

The cost of our 1.5hr Epic Fishing Trip is £30 for adults and £25 for children. The cost of our 2hr Epic Fishing Trip is £35 for adults and £30 for children. All fishing equipment is included.

You will find our Epic Fishing Trips on our online booking system here. We do not charge booking commissions and there are no hidden booking costs.

Archebwch Nawr